32-esek galériái

32-esek képei

Cwestiynau Cyffredin

Tabl cynnwys

FAQ Cyffredin

Pori'r Wefan


 

FAQ Cyffredin

Cwestiwn: Sut ydw i'n mewngofnodi?
Ateb: Ewch i "Mewngofnodi", rhowch eich enw a chyfrinair a sieciwch "Cofiwch Fi" felly eich bod dal wedi mewngofnodi os ydych yn gadael y wefan.
PWYSIG: Mae'n rhaid galluogi cwcis er mwyn defnyddio "Cofiwch Fi".
 
 
Cwestiwn: Pam na allaf fewngofnodi?
Ateb: A wnaethoch gofrestru a chlicio'r ddolen a gafodd ei anfon i chi gan e-bost? Bydd y ddolen yn actifadu eich cyfrif. Am broblemau mewngofnodi eraill, cysylltwch â'r gweinyddwr.
 
 
Cwestiwn: Dwi wedi anghofio fy nghyfrinair?
Ateb: Os oes "Anghofio cyfrinair" gan y wefan hon, defnyddiwch hi. Fel arall, cysylltwch â'r gweinyddwr am gyfrinair newydd.
 
 
Cwestiwn: Sut ydw i'n arbed llun i "Fy Ffefrynnau"?
Ateb: Clic ar lun a chlic ar y ddolen "gwyb llun" (Gwybodaeth llun); yna clic ar "Ychwanegu i ffefrynnau".
Dylai'r "gwybodaeth lluniau" fod ymlaen yn ddiofyn.
PWYSIG: Dylai fod cwcis wedi'u galluogi.
 
 
Cwestiwn: Sut ydw i'n graddio ffeil?
Ateb: Clic ar fawdlun, mynd i'r gwaelod a dewis gradd.
 
 
Cwestiwn: Sut ydw i'n postio sylw ar gyfer llun?
Ateb: Clic ar fawdlun, mynd i'r gwaelod a phostio sylw.
 
 
Cwestiwn: I ble ydw i'n llwytho lluniau?
Ateb: Bydd modd i chi lwytho ffeil i un o'ch albymau mewn "F'Oriel". Mae'n bosib bod y gweinyddwr yn fodlon i chi lwytho i un neu fwy o albymau yn y Brif Oriel.
 
 
Cwestiwn: Pa deip a maint o ffeil gallaf lwytho?
Ateb: Maint a theip (jpg, png, ayyb.) yw dewis y gweinyddwr.
 
 
Cwestiwn: Sut ydw i'n creu, ail-enwi neu ddileu albwm mewn "Fy Oriel"?
Ateb: Dylech eisoes fod mewn "Modd-Gweinyddu."
Ewch i "Creu/Trefnu F'Orielau" a chlicio "Newydd". Newidiwch "Albwm Newydd" i'r enw o'ch dewis.
Gallwch hefyd ail-enwi'r albymau yn eich oriel.
Clic "Gosod Addasiadau".
 
 
Cwestiwn: Sut ydy i'n cyfyngu'r defnyddwyr sy'n gallu edrych ar f'albymau?
Ateb: Dylech eisoes fod mewn "Modd-Gweinyddu."
Ewch i "Addasu f'albymau. Ar far "Diweddaru Albwm", dewiswch yr albwm rydych am ei addasu.
Yma, gallwch newid yr enw, disgrifiad, bawdlun, cyfyngu golwg a hawliau sylwadau/graddio.
Clic "Diweddaru Albwm".
 
 
Cwestiwn: Sut allaf edrych ar orielau defnyddwyr eraill?
Ateb: Ewch i "Rhestr Albwm" a dewis "Orielau Defnyddwyr".
 
 
Cwestiwn: Beth yw cwcis?
Ateb: Data (testun) yw cwci sydd yn cael ei anfon o'r wefan i'ch peiriant.
Mae cwcis yn aml yn storio gwybodaeth mewngofnodi.
 
 
Cwestiwn: O ble allaf gael y rhaglen hon ar gyfer fy ngwefan?
Ateb: Oriel Amlgyfrwng rhad ac am ddim yw Coppermine, wedi'i gyhoeddi dan GNU GPL. Mae'n llawn nodweddion ac mae wedi'i borthi i sawl platfform. Ewch i Hafan Coppermine i ddarganfod mwy a'i lawrlwytho.
 
 

Pori'r Wefan

Cwestiwn: Beth yw "Rhestr Albymau"?
Ateb: Dyma'r categori rydych mewn ar y pryd, gyda dolen i bob albwm. Os nac ydych mewn categori, bydd yn dangos yr oriel gyfan gyda dolenni i bob categori. Gall bawdlun fod yn ddolen i'r categori.
 
 
Cwestiwn: Beth yw'r gwahaniaeth rhwng "Modd Gweinyddu" a "Modd Defnyddiwr"?
Ateb: Pan yn modd-gweinyddu, mae hwn yn galluogi defnyddiwr i addasu ei oriel (yn ogystal ag eraill os yw'n cael ei ganiatáu gan y gweinyddwr).
 
 
Cwestiwn: Beth yw "Llwytho Llun"?
Ateb: Mae hwn yn galluogi defnyddiwr i lwytho ffeil (maint a theip i'w penderfynu gan y gweinyddwr) i oriel sydd yn cael ei ddewis gennych chi neu'r gweinyddwr.
 
 
Cwestiwn: Beth yw "Llwythiadau Diwethaf"?
Ateb: Mae hwn yn dangos y llwythiadau diwethaf i'r wefan.
 
 
Cwestiwn: Beth yw "Sylwadau Diwethaf"?
Ateb: Mae hwn yn dangos y sylwadau diwethaf gan ddefnyddwyr.
 
 
Cwestiwn: Beth yw "Mwyaf o Olygon"?
Ateb: Mae hwn yn dangos y ffeiliau sydd wedi'u gweld y mwyaf o weithiau gan ddefnyddwyr (wedi mewngofnodi ai beidio).
 
 
Cwestiwn: Beth yw "Goreuon"?
Ateb: Mae hwn yn dangos y ffeiliau gorau a gafodd eu graddio gan ddefnyddwyr. Mae'n dangos y graddau fel cyfartaledd (e.e: pum defnyddiwr yr un yn rhoi : byddai'r ffeil yn cael gradd o ;Mae pum defnyddiwr wedi graddio'r ffeil o 1 i 5 (1,2,3,4,5) a byddai'n rhoi gradd .)
Gall y graddau fynd o best (gorau) i worst (gwaethaf).
 
 
Cwestiwn: Beth yw "Fy Ffefrynnau"?
Ateb: Mae hwn yn galluogi defnyddiwr i storio ffefryn (llun) mewn cwci ar eich cyfrifiadur.